Yassa Khan, cyfarwyddwr ffilmiau o Gaernarfon yn wreiddiol yw gwestai Beti George.
Mae Yassa Khan yn dweud bod rhannau o’i fagwraeth yn ei atgoffa o’r ffilm maffia Goodfellas – ond yng Nghaernarfon, nid Efrog Newydd. Roedd ei Dad yn lleidr banc adnabyddus o Gaernarfon, ac fe dreuliodd flynyddoedd yn y carchar trwy gyfnod plentyndod Yassa.
Doedd tyfu i fyny yn y dre' yn yr 1980au ddim yn hawdd iddo gyda'i dad i mewn ac allan o garchar - ac i wneud pethau'n anoddach, roedd o’n fachgen o dras Pakistani ac yn hoyw.
Ond mae ei fagwraeth liwgar wedi arwain ato'n gweithio fel cyfarwyddwr sydd wedi ffilmio'r Pet Shop Boys, Vivienne Westwood a Billie Eilish. Bu hefyd yn gweithio gyda chynllunwyr ffasiwn Gucci a YSL.
Yn ddiweddar mae wedi bod yn gweithio ar ffilm Pink, ac ar hyn o bryd yn gweithio ar ffilm hir Daffodil, sydd yn ddarlun o hanes ei fagwraeth.
Published on Sunday, 8th September 2024.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.