Mandy Watkins, cynllunydd cartref a chyflwynwraig ar gyfres S4C Dan Do, Hen Dŷ Newydd a 'BBC Wales’ Home of the Year' yw gwestai Beti George.
Cafodd ei magu yn y Fali, ar Ynys Môn mewn tŷ o’r enw Graceland, a hynny gan fod ei rhieni yn hoff iawn o'r canwr Elvis, ac mae ganddi atgofion hapus iawn o blentyndod yn gwylio ffilmiau Elvis ar y teledu gyda'i theulu.
Doedd bod yn gynllunydd cartrefi ddim yn rhan o'r cynllun gwreiddiol, fe raddiodd mewn cymdeithaseg a busnes ym Mhrifysgol Bangor. Bu'n gweithio gyda chwmni gwerthu gwyliau yng Nghaer a hefyd i gynllunydd cartrefi. Bu'n gweithio gyda Cyngor Cefn Gwlad Cymru am 10 mlynedd ac fe gafodd gyfnod yn labro i'w thad, cyn adnewyddu cartref iddi hi a'i theulu. Mae wedi sefydlu busnes ei hun a'r Ynys Môn, Space Like This.
Mae'n trafod cael ei bwlio yn yr ysgol, pwysigrwydd cwnsela a'i chyfnod yn dioddef o bulimia.
Mae hi'n Fam i 3, ac yn rhannu straeon ei bywyd prysur ac yn dewis 4 can yn cynnwys un gan Amy Winehouse, Elvis a Bryn Fon.
Published on Sunday, 4th May 2025.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.