Bu farw 16 o bobl yn nhrychineb Dolgarrog, yn 1925, pan dorrodd dau argae uwchben y pentref. Mae Hywel Griffiths yn ddarlithydd daearyddiaeth ac yn y rhaglen hon, mae'n olrhain yr hanes ofnadwy hwn, gan ofyn pa wersi a ddysgwyd o 1925? Yn sicr, cyflwynwyd mesurau diogelwch newydd yn 1930 yn sgil Dolgarrog, a ’does yr un drychineb debyg wedi digwydd ers hynny - ond mae ofn llifogydd yn parhau. Mae Hywel yn holi’r Athro Mererid Puw Davies sut mae’r ofnau hyn yn lliwio ein dychymyg, o’r Dilyw Beiblaidd a chwedl Cantre’r Gwaelod i’r nofelau diweddara. Mae Dr Cerys Jones yn egluro sut y gall newid hinsawdd olygu y bydd stormydd glaw a llifogydd yn fwy dwys ac yn digwydd yn amlach. Ystyriwn y tywydd eithafol diweddar yng Nghwm Rhondda a Valencia; ac ystyriwn sut y llwyddwyd i osgoi trychineb yn Blatten - ond methu yn Guadalupe ac Alau. Mae angen dysgu o wersi'r gorffennol o hyd er mwyn osgoi trychinebau fel Dolgarrog
Published on Sunday, 2nd November 2025.
Available Podcasts from Lleisiau Cymru
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Lleisiau Cymru webpage.