Beti a'i Phobol - Gwerfyl Eidda

Gwerfyl Eidda

Download Gwerfyl Eidda

Mae'r gwestai heddiw, sydd ychydig dros ei phedwar deg mlwydd oed, ar ei pumed swydd. Bu Gwerfyl Eidda yn gweithio gyda Mentrau Iaith yn annog busnesau i ddefnyddio'r Gymraeg. Am 5 mlynedd bu'n diddanu teithwyr ar longau pleser yn canu. Mae wedi cynghori pobol sydd am ddechrau busnes, bu'n gweithio i Ferched y Wawr, ac fe ysgrifennodd lyfr coginio poblogaidd yn seiliedig ar ryseitiau a rannwyd yn ystod y cyfnod clo. A nawr mae hi'n gyrru bysus ac wrth ei bodd yn gyrru yn Ewrop.
Mae'n credu'n gryf y gall pobol gyflawni unrhyw beth maen nhw eisiau mond iddyn nhw gael ffydd yn eu gallu eu hunain.

Daw Gwerfyl yn wreiddiol o Gwm Eidda, ger Ysbyty Ifan.

Published on Sunday, 21st December 2025.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.