Ani Glass yr artist electro-pop o Gaerdydd yw gwestai Beti George. Enillodd ei halbwm cyntaf Mirores wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn, ac mae ei hail albwm Phantasmagoria newydd ei rhyddhau. Cawn hanesion difyr ei bywyd o'r sîn gerddoriaeth, i'w chefndir mewn ffasiwn, a'i chariad tuag at Lerpwl a'r Beatles. Yn y 5 mlynedd diwethaf mae hi wedi croesawu merch fach i'r byd, ac mae hi'n fyddar. Mae Ani yn sôn am ddysgu BSL ac am gyfansoddi a chynhyrchu cerddoriaeth gynhwysol. Fe gafodd Ani hefyd ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd, ac mae'r albwm diweddaraf Phantasmagoria yn gasgliad o ganeuon sydd yn ymateb i'r byd o'i chwmpas.
Ymysg ei dewisiadau cerddorol mae 'Pan Ddaw Yfory' gan Caryl Parry Jones a darn 'Mishima/Closing' gan artist sydd wedi ei dylanwadu, Philip Glass.
Published on Sunday, 4th January 2026.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.