Beti a'i Phobol - Meinir Gwilym

Meinir Gwilym

Download Meinir Gwilym

Meinir Gwilym, y gantores sydd wedi cynhyrchu 6 albwm dros 20 mlynedd, yw gwestai Beti George.

Mae hi hefyd yn gyflwynwraig radio a theledu, ac yn wyneb cyfarwydd ar gyfresi Garddio a Mwy ar S4C - ac yn aelod o'r grŵp Pedair.

Cawn ei hanes ym Mhatagonia gyda Pedair a datblygiad y grŵp. Mae hi'n trafod heriau cerddorion Cymraeg a'r gostyngiad mewn breindaliadau, effaith y llwyfannau digidol a pa mor anodd ydi hi bellach i wneud bywoliaeth fel cerddor.

Fe fydd yn trafod crefydd ac fe gawn glywed sut mae hi'n mynd ati i greu caneuon a phwysigrwydd geiriau, a’r ysbrydoliaeth sy’n dod o brofiadau bywyd.

Mae bywyd personol a chefndir teuluol Meinir Gwilym yn cael sylw, gan gynnwys hanes y teulu, perthynas â rhieni a brodyr, a’r dylanwad cerddorol yn y cartref. Mae’r sgwrs yn cynnwys atgofion am blentyndod, addysg, a’r ffordd y mae cerddoriaeth yn rhan annatod o’r teulu.

Published on Sunday, 18th January 2026.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.