Beti George sydd yn cael cwmni ysbrydoledig Mati Roberts, y Nyrs o Gaerdydd sydd wedi helpu i sefydlu ysgol yn Affrica yn ei amser rhydd.
Pan welodd Mati Roberts decstilau lliwgar mewn siop yn Affrica fe newidiodd llwybr ei bywyd hi a chymuned gyfan yn Ghana am byth.
Deuddeg mlynedd ers disgyn mewn cariad gyda'r defnydd mae ganddi fusnes creadigol sy'n rhoi hwb i economi'r wlad ac yn helpu addysgu dros 200 o blant - a hyn oll wrth barhau i weithio fel nyrs arbenigol yng Nghaerdydd, yn diogelu plant ac yn gofalu am iechyd rhywiol pobol ifanc.
Mae Mati yn sôn iddi ddarganfod fod ganddi ddyslecsia a dyspracsia wrth astudio yn y Coleg.
Cawn glywed hefyd stori hyfryd am ei Thaid, y diweddar John Rowley oedd yn Bennaeth y BBC yng Nghymru am gyfnod, gafodd ei adael yn fabi bach yn amddifad wrth giât fferm teulu caredig yn Bwlch y Cibau ger Llanfyllin.
Published on Sunday, 22nd February 2026.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.