Yr awdur a darlithydd Peredur Glyn yw gwestai Beti George.
Fe enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn 2025 am ei nofel Anfarwol sy’n dilyn bywyd yr actor enwog o’r ddeunawfed ganrif, Theophilus Cibber.
Daw Peredur Glyn o Ynys Môn, ac yno mae'n byw heddiw gyda'i deulu ym Mhorthaethwy.
Aeth i Ysgol Gymuned Bodffordd ac Ysgol Gyfun Llangefni, cyn graddio ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Cwblhaodd ddoethuriaeth mewn Ieithyddiaeth o Brifysgol Bangor yn 2010.
Mae Peredur wedi bod yn darlithio ym maes ieithyddiaeth ers dros bymtheg mlynedd. Bellach mae’n Ddarllenydd mewn Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd yn Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor gan addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau a phapurau ysgolheigaidd ar ieithyddiaeth y Gymraeg, gan gynnwys am amrywiaeth sosioieithyddol, newid gramadegol a chyfnewid côd.
Cawn hanesion ei fywyd ac mae'n dewis 4 can yn cynnwys 'My Eyes Are Fully Open' – Gilbert and Sullivan, mae Peredur wedi bod yn arwain ac yn perfformio operâu Gilbert and Sullivan ers blynyddoedd ac yn aelod selog o gorau Hogia Llanbobman a Chôr Esceifiog.
Published on Sunday, 8th March 2026.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.