Beti a'i Phobol - Annie Morgan Suganami

Annie Morgan Suganami

Download Annie Morgan Suganami

Celf yw diddordeb ein gwestai Annie Morgan Suganami, a hynny ers yn blentyn bach - ond fe aeth hi i'r Academi Frenhinol yn Llundain yn 15 mlwydd oed i gael ei hyfforddi i chwarae'r ffliwt, a dyna oedd yr offeryn roddodd fywoliaeth iddi a hynny fwy neu lai ar draws y byd.

Yna yn 60 mlwydd oed penderfynodd wireddu breuddwyd a mynd nôl i'r coleg a chael gradd mewn celfyddyd gain. Erbyn hyn mae hi'n artist adnabyddus ac wrth galon ei gwaith mae portreadau urddasol a chynnes o fenywod hŷn.

Fe ddaw yn wreiddiol o bentref Dolau ger Aberystwyth.

Mae hi'n trafod ADHD, ac yn sôn ei bod hi ar y sbectrwm yma a nifer o'r teulu ac yn ei gwneud yn berson creadigol a phenderfynol.

Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis 4 cân yn cynnwys un o ganeuon Cusan Tân, grŵp y bu hi'n rhan ohono sydd wedi ail ffurfio yn ddiweddar ar ôl 25 mlynedd o seibiant.

Published on Sunday, 22nd March 2026.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.