Mae Lauren Salter, sy’n fwy adnabyddus yn broffesiynol fel Lauren Jenkins, yn un o brif wynebau darlledu rygbi yng Nghymru. Mae hi wedi gweithio i BBC Sport, S4C, Prime Video a Premier Sports ac yn cyflwyno a sylwebu ar ein sgriniau’n wythnosol.
Cafodd cryn dipyn o sylw yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad am iddi gyfweld chwaraewr rygbi o Ffrainc yn Ffrangeg a chyfieithu ei atebion yn syth i'r Gymraeg.
Fe ddaw yn wreiddiol o Lanelli, yn gyn disgybl Ysgol Gymraeg Dewi Sant ac Ysgol Uwchradd Y Strade. Fe astudiodd Ffrangeg a Sbaeneg fel Gradd ym Mryste, a bu'n gweithio am gyfnod yn siop Louis Vuitton ym Mharis yn ystod ei blwyddyn allan.
Mae hi'n sôn am uchafbwyntiau ei gyrfa ac yn cofio am ei phlentyndod a'i hoffter o ffasiwn, ac yn dewis 4 cân yn cynnwys cân gan Eve Goodman ac Alys Williams.
Published on Sunday, 19th April 2026.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.