Beti George sydd yn sgwrsio gyda Heledd Williams o Drefdraeth, Sir Benfro.
Mae Heledd yn un o Ferched y Môr a groesodd Fôr yr Iwerydd taith o 3,000 o filltiroedd mewn 50 diwrnod, 14 awr a 43 munud fel rhan o World’s Toughest Row.
Fe ddechreuodd Merched y Môr - y criw benywaidd cyntaf o Gymru i gymryd rhan yn y ras - rwyfo o San Sebastián de La Gomera, ger Tenerife, ar 14 Rhagfyr 2025.
Er gwaethaf wynebu tonnau 20 troedfedd, gorflinder a salwch y môr, fe lwyddodd y tîm a'r cwch rhwyfo, o'r enw 'Cariad', groesi'r llinell derfyn yn ynys Antigua yn y Caribî.Cawn hanes ei thaith trwy stormydd a thonnau o 20 troedfedd a'r heriau wnaeth ei wynebu. " merched cyffredin yn eu 40'au + mae rhywbeth yn bosib".
Mae Heledd yn weithiwr cymdeithasol sy’n helpu i ddod o hyd i deuluoedd maeth.
Mae hi hefyd yn dewis 4 cân, gan gynnwys Adra gan Gwyneth Glyn.
Published on Sunday, 3rd May 2026.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.