Mae Gav Murphy yn bersonoliaeth adnabyddus ym maes gemau fideo. Mae'n gyn-newyddiadurwr a chynhyrchydd cynnwys, ac yn un o wynebau mwyaf adnabyddus sianel RKG, lle mae'n cyflwyno fideos, podlediadau ac adolygiadau gemau a ffilmiau.
Treuliodd ei blentyndod ym Maes y Cymer ger Caerffili, lle bu'n byw tan 2003. Yn y flwyddyn honno symudodd i Aberystwyth i astudio Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan gwblhau ei radd yn 2007. Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i gwblhau gradd Meistr mewn Ysgrifennu Sgriptiau.
Er bod llawer o bobl yn gweld Gav fel y person doniol, y "class clown" sy'n codi calon pawb arall, mae'n cyfaddef bod anfanteision i hynny hefyd. Yn aml, pan mai chi yw'r person sy'n gwneud i bawb chwerthin ac yn codi ysbryd y criw, gall pobl anghofio gofyn sut rydych chi eich hun yn teimlo. Mae wedi profi cyfnodau pan oedd yn teimlo'n isel ac yn cael trafferthion gyda'i iechyd meddwl, ond nid oedd pobl bob amser yn sylweddoli hynny oherwydd y ddelwedd allanol hapus a doniol.
Mae'n rhannu hanesion ei fywyd gyda Beti George a hefyd yn sôn am ei gariad Honey Ross.
Published on Sunday, 4th October 2026.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.