Download Wyt ti'n gwybod dy statws?
A hithau'n bennod olaf y gyfres yma o'r podlediad, roedden ni eisiau trafod pwnc ychydig bach fwy arwyddocaol, sef HIV/AIDS. Mae'n afiechyd sydd dal i effeithio nifer o bobl yma yng Nghymru, ac yn ôl ein gwestai ni heddiw sef Uwch Gynghorydd polisi grwp trawsbleidiol HIV/AIDS San Steffan, Mark Lewis, mae yna lot o waith i'w wneud eto i addysgu pobl am yr afiechyd er mwyn rhwystro trosglwyddiadau newydd o'r firws.
Os hoffech gymorth neu fwy o wybodaeth am HIV/AIDS yna ewch i wefan y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol, y Terrence Higgins Trust neu cysylltwch â'ch meddyg teulu.
Diolch o galon am wrando ar y gyfres,
Iestyn a Meilir :)
Published on Saturday, 31st July 2021.
Available Podcasts from Esgusodwch fi?
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Esgusodwch fi? webpage.