Y Podlediad Dysgu Cymraeg - Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 31ain 2021

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 31ain 2021

Download Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 31ain 2021

01. Aled Hughes – Elfyn Jones

Does dim golygfa well, nac oes, na mynyddoedd Cymru yn wyn o dan eira ar ddiwrnod braf o aeaf. Mae’n demtasiwn mawr i fynd i ddringo’r mynyddoedd bryd hynny, on’d yw hi? Ond cofiwch, tasech chi’n mentro allan mae’r mynyddoedd yn gallu bod yn lefydd peryglus iawn, fel eglurodd Elfyn Jones sy’n gadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, wrth Aled Hughes

Yn union Exactly

Gorchuddio To cover

Anhygoel Incredible

Denu To attract

Ceudyllau Potholes

Twyllodrus Deceptive

Amgylchiadau Circumstances

Dyffrynnoedd Valleys

Yn wirioneddol Really

Offer Equipment

02. Cofio – Nia Roberts a Caryl Parry Jones

Cyngor da gan Elfyn Jones yn fan’na ar raglen Aled Hughes – byddwch yn ofalus os dych chi am ddringo’r mynyddoedd yn y gaeaf.
Mae’n siŵr ein bod yn clywed mwy o ganu adeg y Nadolig nag ar unrhyw adeg y flwyddyn, gyda charolau, caneuon am Sion Corn i’r plant bach a chaneuon pop Nadoligaidd i’r plant mawr! Ond beth sy’n gwneud cân Nadolig dda? Dyma i chi farn Nia Roberts a Caryl Parry Jones...

Nadoligaidd Christmassy

Naws Mood

Cydio yn To attach to

Myfyrio To reflect

Addoli To worship

Dyfynodau Quotation marks

Ein heneidiau ni Our souls

Hud a swyn Magic and enchantment

Preseb Manger

Dyheu am To yearn for


03. Dros Ginio – Betsan Powys ac R Alun Evans

Ac ar ddiwedd y clip yna clywon ni ddarn o un o ganeuon Nadolig Caryl - “Drama’r Preseb”.

Dau sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i’r BBC dros y blynyddoedd oedd gwestai Dewi Llwyd ar Dros Ginio –R Alun Evans a’i ferch Betsan Powys. Buodd R Alun Evans yn gyflwynydd a chynhyrchydd gyda’r BBC am 32 o flynyddoedd ac yn weinidog gydag enwad yr Annibynwyr am flynyddoedd. Roedd Betsan yn Olygydd Rhaglenni y BBC nes iddi hi roi'r gorau i'r swydd yn 2018. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Cyflwynydd a chynhyrchydd Presenter and producer

Enwad yr Annibynwyr Independents denomination

Golygydd Rhaglenni Programme editor

Siglen Swing

Parchu To respect

Penderfynol, ystyfnig Determined, stubborn

Cymwynasgar Obliging

Cefnogol Supportive


04. Hywel Gwynfryn a Sian Phillips (Darllediad Arbennig Dydd Nadolig)

Un arall sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r BBC dros y blynyddoedd ydy Hywel Gwynfryn a fe gafodd y cyfle i gael sgwrs gyda’r actores fyd enwog Siân Phillips, sydd yn dod o Waen-Cae-Gurwen yn Sir Castell Nedd Port Talbot yn wreiddiol. Dyma hi’n sgwrsio am un rhan o’i gyrfa wnaeth ddim gweithio cystal â hynny...

Cyfraniad enfawr A huge contribution

Cyhoeddwraig Announcer ( female)

Ro’n i’n dwlu ar Ro’n i wrth fy modd efo

Uffernol Hellish

Cyngor y Celfyddydau Arts Council

Clychau Bells

Mas o anadl Out of breath

Pennaeth Head

05. Geraint Lloyd - Rhys Jones o Gwmffrwd

Dyna stori dda on’d ife? Mae hyd yn oed Sian Phillips yn gallu bod mewn trwbl gyda’i bos! Ddaeth Sion Corn i’ch tŷ fore Nadolig? Os mai dod lawr y simnai wnaeth e, gobeithio eich bod wedi gwneud yn siŵr bod y simnai’n lân iddo fe! Glanhawr simneiau ydy Rhys Jones o Gwmffrwd ger Caerfyrddin a gofynnodd Geraint Lloyd iddo fe pam dewisodd e wneud y swydd arbennig hon...

Glanhawr simneiau Chimney sweep

Bachan Dyn

(Di)bennu Gorfffen

Mo’yn Eisiau

Ffili Methu

Tystysgrif Certificate

Tannau nwy Gas fires

06. Geraint Lloyd – Ar y Map

Rhys Jones oedd hwnna , ac mae ganddo un o swyddi bwysica adeg yma’r flwyddyn on’d oes?
Arhoswn ni gyda Geraint Lloyd am y clip nesa hefyd, aeth Geraint ‘Ar y Map’ i bentref bach Casnewydd Bach yn Sir Benfro, sydd yn enwog fel man geni y mor-leidr Barti Ddu. Mae undeg chwech cenhedlaeth o deulu Richard Davies wedi byw yn y pentre hwn, felly fe yw’r dyn i sôn am berson enwoca Casnewydd Bach a dyma fe’n sôn am hanes Barti Ddu wrth Geraint Lloyd...


Man geni Birthplace

Morleidr Pirate

Cenhedlaeth Generation

Taw Mai

Yn lled ifanc Quite young

Crydd Cobbler

Cofnodi To record

Carreg goffa Memorial stone

Trichanmlwyddiant Tercentenary

Genedigaeth Birth

Marwolwaeth Death

Published on Friday, 31st December 2021.

Available Podcasts from Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Subscribe to Y Podlediad Dysgu Cymraeg

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Podlediad Dysgu Cymraeg webpage.