Y Podlediad Dysgu Cymraeg - Podlediad Pigion y Dysgwyr 13eg o Fedi 2022

Podlediad Pigion y Dysgwyr 13eg o Fedi 2022

Download Podlediad Pigion y Dysgwyr 13eg o Fedi 2022

Aled Hughes
Hanes anhygoel, ac emosiynol, Gerallt Wyn Jones gafodd ei fabwysiadu yn chwe mis oed o Fanceinion a chael ei fagu ym Methesda, Gwynedd. Aeth Aled Hughes draw ato am sgwrs a dyma Gerallt yn sôn am yr adeg pan ddaeth o i gyswllt efo’i deulu biolegol am y tro cynta…
Dod i gyswllt - Come into contact
Anhygoel - Incredible
Mabwysiadu - To adopt
Y fenga - Yr ifanca
Tridiau - Tri diwrnod
Angladd - Funeral

Beti a'i Phobol
Ann Ellis, Prif Weithredwr y Mauve Group, sef cwmni sy’n gweithio mewn nifer fawr o wledydd ar draws y byd, oedd gwestai Beti George. Mae ganddi bedwar cartre – ar ynys Cyprus, yn Rhufain, yn Dubai ac yn Miami ond cafodd Ann ei magu ym Merain, Sir Ddinbych, sef cartref uchelwraig o’r unfed ganrif ar bymtheg, Catrin o Ferain.
Dod o hyd i - To find
Prif Weithredwr - Chief Executive
Rhufain - Rome
Uchelwraig - Noblewoman
Yr unfed ganrif ar bymtheg - 16th century
Hardd - Beautiful
Cyfoethoca - Richest
Cytundeb - Contract
Ysbrydoli - To inspire
Menywod - Merched

Gwneud Bywyd yn Haws
Roedd hi’n wythnos ymwybyddiaeth Meigryn wythnos diwetha, ac roedd gan Hanna Hopwood raglen arbennig yn edrych ar Feigryn, neu Migrane, sy’n effeithio ar un ymhob saith person. Ei gwestai arbennig oedd Dr Anna Maclean, a mi roedd rhaid i Dr Anna ymddeol yn gynnar o’i swydd fel meddyg teulu oherwydd meigryn cronig ac erbyn hyn mae hi’n weithgar yn codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr.
Ymwybyddiaeth Meigryn - Migrane Awareness
Cyflwr - Condition
Dyddiol - Daily
Diolch i’r nefoedd - Thank goodness
Byd enwog - World famous
Chwistrelliad - Injection
Cyffur - Drug

Cofio
Pensaernïaeth oedd pwnc y rhaglen archif “Cofio gyda John Hardy “ bnawn Sul. Roedd gwreiddiau’r pensaer enwog Frank Lloyd Wright yng Nghymru. Cafodd ei fam ei geni ar fferm yn Llandysul ac enw ei gartre yn America oedd “Taliesin”. Mi fuodd Ian Michael Jones yn rhoi ychydig o hanes y pensaer i ni.
Pensaernïaeth - Architecture
Gwefreiddiol - Thrilling
Trawiadol - Striking
Bythgofiadwy - Ever-memorable
Andros o stori - A heck of a story
Dylunio - To design
Erw - Acre
Rhaeadr - Waterfall
Fel petai - As if
Hud a lledrith - Magic

Crwydro’r Cambria
Mae Dafydd Morris Jones, sy’n ffermio yn ardal Ponterwyd, Ceredigion ac Ioan Lord, sy’n hanesydd diwydiannol, yn crwydro mynyddoedd y Cambria ar eu beics gan roi cipolwg ar hanes a thirwedd yr ardal. Ioan sy’n dweud lle yn union oedden nhw y diwrnod o’r blaen.
Hanesydd diwydiannol - Industrial historian
Cipolwg - A glimpse
Tirwedd - Landscape
Mwyngloddiau aur - Gold mines
Gweithfeydd aur Rhufeinig - Roman gold works
Am wn i - As far as I know
Plwm - Lead
Oes efydd - Bronze age
Talaith - Region
Ansawdd - Quality

Bore Cothi
Mae Gŵyl Fwyd a Diod flynyddol yr Alban yn cael ei chynnal ar hyn o bryd. Mae Marian Evans yn byw yn Lossiemouth, tref glan y môr, rhwng Inverness ac Aberdeen a buodd Marian yn sôn am frecwast traddodiadol y wlad ar Bore Cothi...
Ffasiwn beth - Such a thing
Ansawdd - Texture
Morwyr pysgota - Fishermen
Saim - Fat
Cynhesu - Twymo
Enllyn - Dairy products
Y llwybr cul - The narrow path

Published on Friday, 16th September 2022.

Available Podcasts from Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Subscribe to Y Podlediad Dysgu Cymraeg

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Podlediad Dysgu Cymraeg webpage.