Download Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 19eg 2023
Pigion Dysgwyr – Podlediad I Fyfyrwyr
Bore Llun diwetha cafodd Aled Hughes sgwrs ar ei raglen gyda Cerith Rhys-Jones a Steffan Alun Leonard. Mae’r ddau wedi rhyddhau podlediad newydd o’r enw 'Sgwrsio am Brifysgol' sy'n rhoi blas i ddarpar-fyfyrwyr ar beth yw bywyd coleg, gyda phrofiadau myfyrwyr go iawn.
Rhyddhau To release
Darpar-fyfyrwyr Prospective students
Rhannu profiadau Sharing experiences
Gwerthfawr Valuable
Cyflwyno To present
Teimlo’n gartrefol Feeling at home
I ryw raddau To some extent
Yn gwmws Yn union
Rhinwedd Merit
Mewnwelediad Insight
Trawstoriad eang A wide cross-section
Pigion Dysgwyr – Tomatos
Podlediad gwerthfawr iawn ac amserol hefyd gyda chymaint o fyfyrwyr yn cychwyn ar eu taith brifysgol yn ystod y mis hwn.
Ychydig wythnosau yn ôl ar Pigion clywon ni sgwrs rhwng Adam Jones sef Adam yn yr Ardd a Shan Cothi. Rhoddodd Adam her i Shan i dyfu tomatos ac adrodd yn ôl ar ddiwedd yr haf ar sut aeth pethau. Dyma ddarn o’r sgwrs gafodd y ddau wythnos diwetha….
Her A challenge
Teimlo fel oes Feels like ages
Crasboeth Scorched
Yn y cnawd In the flesh
Awdurdod Authority
Pencampwyr Champions
Carotsen Moronen
Llawn cystal Just as good
Iseldiroedd Netherlands
Chwerw Bitter
Pigion Dysgwyr – Fflemeg
Wel pwy fasai’n meddwl mai rhywun o’r Iseldiroedd sy’n gyfrifon am liw oren moron, on’d ife!
Iseldireg wrth gwrs yw iaith y wlad honno, ond mae hi hefyd yn cael ei siarad mewn rhan o Wlad Belg sef Fflandrys.
Ac yn Fflandrys yn ddiweddar mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud Iseldireg yn unig iaith yr iard ysgol.
Mae’r Dr Guto Rhys, yn byw ac yn magu ei blant yn Fflandrys a dyma fe i esbonio mwy am y sefyllfa ar Dros Ginio bnawn Mawrth……
Cenhedlaeth Generation
Tafodieithoedd Dialects
Cymhleth Complicated
Pryder A concern
Gorfodi To compel
Tybio To presume
Anniddigrwydd Discontent
Anghyfleus Inconvenient
Iaith leiafrifol Minority language
Iaith rymus A powerful language
Pigion Dysgwyr – Bethan Rhys Roberts
Hanes sefyllfa gymhleth ieithoedd Gwlad Belg yn fanna gan Dr Guto Rhys.
Mae’n wythnos a hanner bellach ers i ddaeargryn nerthol daro dinas Marrakech ac ardaloedd cyfagos. Un oedd yn y ddinas ar y pryd oedd Bethan Rhys Roberts, un o newyddiadurwyr BBC Cymru. Dyma hi ar raglen Bore Sul yn esbonio beth ddigwyddodd ar yr union eiliad pan darodd y daeargryn……
Daeargryn nerthol A powerful earthquake
Hynafol Ancient
Strydoedd culion Narrow streets
Sŵn byddarol A deafening noise
Dychrynllyd Frightening
Ymgynnull To congregate
Llafnau Slabs
Dymchwel To collapse
Sgrialu Scrambling
Anhrefn Disarray
Yn reddfol Instinctively
Pigion Dysgwyr – La Liga
Ac yn drist iawn wrth gwrs buodd miloedd o bobl farw ym Morocco yn dilyn y daeargryn. Bethan Rhys Roberts yn fanna yn rhoi syniad i ni o’r sefyllfa ddychrynllyd ym Marrakesh.
Mae tîm pêl-droed pentre Llanfairpwll ar Ynys Môn wedi cael noddwyr newydd ar gyfer y tymor newydd. Mi fydd enw’r gynghrair Sbaenaidd - LaLiga - ar flaen crysau'r chwaraewyr eleni. Ie wir, darn o España ar dir Ynys Môn.
Hannah Thomas ydy ysgrifennydd y tîm, a dyma hi i esbonio mwy ar Dros Frecwast fore Mercher
Noddwyr Sponsors
Ysgrifennydd Secretary
Yn raddol Gradually
Pwyllgor Committee
Manteision Advantages
Hogia Bechgyn
Diolchgar Thankful
Denu To attract
Pigion Dysgwyr – Clwb Ifor Bach
Wel dyna ni, tybed fyddwn ni’n gweld Llanfairpwll yn chwarae yn erbyn Barcelona neu Real Madrid yn y dyfodol!
Dych chi wedi ymweld â Chlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd erioed? Sefydlwyd y clwb bedwar deg o flynyddoedd yn ôl er mwyn rhoi llwyfan i fandiau Cymraeg chwarae, a hefyd fel man ble gallai siaradwyr Cymraeg y Brifddinas ddod i gymdeithasu. Nos Sul darlledwyd rhaglen i nodi y garreg filltir bwysig, hon ac mae cyfle wrth gwrs i chi wrando ar y rhaglen gyfan ar BBC Sounds…..
Llwyfan A stage
Darlledwyd Was broadcast
Carreg filltir Milestone
Sylfaenwyr Founders
Cyfeddach Companionship
Hwb cymdeithasol Social hub
Sefydliad Establishment
Cynhyrchydd Producer
Pigion Dysgwyr – Rhys Taylor
Sefydliad arall oedd yn dathlu carreg filltir arbennig oedd Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, a dathlu pumdeg o flynyddoedd ers ei sefydlu oedd yr ysgol hon. Cafodd y cerddor Rhys Taylor sgwrs gyda Caryl Parry Jones wythnos diwetha gan fod Rhys yn gyn-ddisgybl yr ysgol. Nos Sadwrn roedd e’n un oedd yn cymryd rhan mewn cyngerdd yn Nghanolfan y Celfyddydau y dre fel rhan o’r dathliadau
Cerddor Musician
Breintiedig Privileged
Oes euraidd Golden age
Preswyl Residential
Cerddorfeydd Orchestras
Brolio To boast
T’mod Rwyt ti’n gwybod
Published on Tuesday, 19th September 2023.
Available Podcasts from Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Subscribe to Y Podlediad Dysgu Cymraeg
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Podlediad Dysgu Cymraeg webpage.