Y Podlediad Dysgu Cymraeg - Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref yr 17eg 2023

Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref yr 17eg 2023

Download Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref yr 17eg 2023

Pigion Dysgwyr – Peris Hatton

Mae Peris Hatton newydd gyhoeddi llyfr ar gasglu crysau pêl-droed o wahanol gyfnodau. Enw’r llyfr yw “The Shirt Hunter”. Mae e wedi bod yn casglu ers dros dau ddeg pum mlynedd….dyma fe i sôn mwy am yr obsesiwn ar raglen Aled Hughes.

Newydd gyhoeddi Just published

Cyfnodau Periods of time

Ddaru Wnaeth

Poblogaidd Popular

Oddeutu Tua

Mwydro To bewilder

Newydd sbon Brand new

Offer Equipment


Pigion Dysgwyr – Jane Blank

Peris Hatton oedd hwnna’n sôn am ei obsesiwn gyda chrysau pêl-droed.
Ar BBC Sounds ar hyn o bryd mae’r awdures Jane Blank yn sôn am hanes ei theulu mewn cyfres o’r enw “Fy Achau Cymraeg”. Roedd hi ar raglen Shan Cothi wythnos diwetha i sôn ychydig am ei theulu. Dyma i chi flas ar y sgwrs...


Cyfres Series

Achau Lineage

Mamgu a tad-cu Nain a taid

Ambell i deulu Some families

Chwant Desire

Tyrchu’n ddwfn To dig deep


Pigion Dysgwyr – Beti George

Ewch i BBC Sounds os ydych chi eisiau clywed rhagor o’r sgwrs ddifyr honno.
Ers bron i bedwar deg mlynedd mae Beti George wedi cyflwyno Beti a’i Phobol. A hi oedd gwestai gwadd Shelley a Rhydian yn ddiweddar ar eu rhaglen Sadwrn. Dyma Beti i esbonio ychydig am gefndir y rhaglen wythnosol mae hi’n ei chyflwyno


Yn ddiweddar Recently

Bodlon Willing

Enghraifft berffaith A perfect example

Hyn a’r llall This and that

Croesawu To welcome

Dwys Intense

Pigion Dysgwyr – Ifan Huw Dafydd

Ac mae Beti wastad yn neis on’d yw hi, ac yn cael sgyrsiau diddorol gyda’i gwestai.
Yn ddiweddar buodd yr actor Ifan Huw Dafydd ar daith gerdded Llwybr y Pererinion sef y Camino Frances, i Santiago de Compostela yn Sbaen. Roedd e’n codi arian i elusen Jac Lewis. Mae elusen Jac Lewis yn cefnogi lles meddwl pobl ifanc ac yn cynnig help i’w teuluoedd...

Dyma Ifan Huw Dafydd ar raglen Ifan Jones Evans yr wythnos diwetha yn rhannu ambell i stori o’r daith.


Pererinion Pilgrims

Elusen Charities

Lles meddwl Mental welfare

Traddodiad Tradition

Bys troed Toe

Crwtyn Bachgen

Anhygoel Incredible

Llwch Ashes

Gwasgaru Scatter

Pigion Dysgwyr – Heledd Garddio

Llongyfarchiadau mawr i Ifan Huw Dafydd am lwyddo i wneud y daith arbennig hon, ac roedd cwmni diddorol iawn ganddo ar y ffordd on’d oedd?
Weithiau mae ‘Heledd Garddio’ yn cyfrannu at raglen Caryl Parry Jones i rannu ei chyfrinachau garddio gyda Caryl a’r gwrandawyr. Ond wythnos diwetha rhannodd Heledd gyfrinach wahanol iawn gyda Caryl sef beth fasai ei pharti delfrydol hi……

Cyfrannu To contribute

Cyfrinachau Secrets

Delfrydol Ideal

Crybwyll To mention

Plentynaidd Childish

Sa i di meddwl Dw i ddim wedi meddwl


Pigion Dysgwyr – Awduron

Mae parti Heledd yn swnio’n llawer o hwyl on’d yw e?
Mae awduron plant ar draws Prydain wedi cyfarfod yn Abertawe yn ddiweddar i gynnal sesiynau storïau ac awduro. Dau oedd yno oedd y gŵr a’r wraig Thomas Docherty a Helen o Abertawe. Maen nhw hefyd wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Dyma nhw ar raglen Ffion Dafis i sôn am eu gwaith….


Awduro Authoring

Amser maith yn ôl A long time ago

Antur Adventure

Cyfleoedd Opportunities

Pe byddai rhywun Tasai rhywun

Dwlu ar Wrth ei bodd efo

Mamiaith Mother tongue

Published on Tuesday, 17th October 2023.

Available Podcasts from Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Subscribe to Y Podlediad Dysgu Cymraeg

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Podlediad Dysgu Cymraeg webpage.