Y Podlediad Dysgu Cymraeg - Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 16eg o Ionawr 2024.

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 16eg o Ionawr 2024.

Download Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 16eg o Ionawr 2024.

Pigion Dysgwyr – Gwyneth Keyworth


Mi fydd yr actores o Bow Street ger Aberystwyth, Gwyneth Keyworth, yn perfformio mewn cyfres ddrama deledu newydd, Lost Boys and Fairies cyn bo hir. Dyma Gwyneth ar raglen Shelley a Rhydian yn sôn mwy am y ddrama a’i rhan hi ynddi.


Cyfres Series

Ymdrin â To deal with

Mabwysiadu To adopt

Hoyw Gay

Tyner Gentle

Pigion Dysgwyr – Ian Gwyn Hughes


Gwyneth Keyworth oedd honna’n sôn am ei rhan hi yn y ddrama deledu newydd Lost Boys and Fairies .
Gwestai Arbennig rhaglen Bore Sul oedd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Yn ystod ei sgwrs gyda Betsan Powys mi soniodd Ian am ei weledigaeth pan ddechreuodd weithio efo’r Gymdeithas Bêl-droed.

Gweledigaeth Vision

Pennaeth Cyfathrebu Head of Communication

Cyflwyno Introduce

Naws Cymreig A Welsh ethos

Plannu hadau Planting seeds

Gorfodi To force

Diwylliant Culture

Hunaniaeth Identity

Cynrychioli To represent

Balchder Pride

Ymateb To respond

Gan amlaf More often than not



Pigion Dysgwyr – Nayema Khan Williams


Cofiwch y gallwch chi wrando ar sgwrs gyfan Ian Gwyn Hughes unrhyw bryd sy'n gyfleus i chi drwy fynd i wefan neu ap BBC Sounds.

Nayema Khan Williams ymunodd â Beti George ar Beti a’I Phobol wythnos diwetha. Mae Nayema a’i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd.
Mi gafodd hi ei magu yng Nghaernarfon, ond roedd ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn yn dod o Bacistan yn wreiddiol. Daeth ei thad draw yn y 50 i Gaernarfon, ac ar y dechrau mi fuodd o’n gwerthu bagiau o gwmpas tafarndai. Wedyn mi fuodd yn gwerthu bagiau ym marchnad Caernarfon ac mewn marchnadoedd eraill am flynyddoedd.
Dyma Nayma yn sôn am ei ffydd……


Ffydd Faith

Dwyn i fyny Brought up

Gweddïo To pray

Aballu And so on

Pigion Dysgwyr – Pilates


Nayema Khan Williams o Gaernarfon yn fanna yn sôn ychydig am Islam. Drwy gydol wythnos diwetha thema Rhaglen Aled Hughes oedd “ Dydy hi byth yn rhy hwyr” sef cyfres o eitemau i annog gwrandawyr i sylweddoli nad ydy hi byth yn rhy hwyr i wynebu sialensau newydd. Mi ymwelodd Aled ag Eirian Roberts yng Nghaernarfon i gael gwers Pilates. A dyma sut aeth pethau

Annog To encourage

Garddwrn Wrist

Y glun The hip

Anadlu To breath

Asennau Hips

Tueddu i or-ddatblygu Tend to over develop

Sbio Edrych


Pigion Dysgwyr – Chloe Edwards


Gobeithio bod Aled yn iawn ynde ar ôl yr holl ymarferion Pilates ‘na!
Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddysgu Cymraeg chwaith, ac un sydd wedi profi hynny ydy Chloe Edwards. Fore Mercher diwetha ar raglen Aled Hughes mi soniodd Chloe wrth Aled am y daith mae hi wedi gymryd i ddod yn rhugl yn yr iaith.

Trwy gyfrwng Through the medium

Gweithgareddau Activities


Pigion Dysgwyr – Pantomeim


Ac mae Chloe newydd ymuno â thîm tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor. Pob lwc iddi hi ynde? .
Nos Fawrth ddiwetha ar ei rhaglen mi gafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Rhian Lyn Lewis. Mae Rhian ar hyn o bryd yn chwarae rhan un o’r gwragedd drwg ym Mhanto y Friendship Theatre Group yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli. Gofynnodd Caryl iddi hi’n gynta ers pryd mae’r cwmni wedi bod yn perfformio Pantomeim

Elusennau Charities

Llwyfan Stage

Pres Arian

Bant I ffwrdd

Y brif ran The main part

Ymylol Peripheral

Tywysoges Princess

Tylwyth teg Fairy

Published on Tuesday, 16th January 2024.

Available Podcasts from Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Subscribe to Y Podlediad Dysgu Cymraeg

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Podlediad Dysgu Cymraeg webpage.