Wythnos enfawr o wleidyddiaeth yng Nghymru gydag araith gan Brif Weinidog, Eluned Morgan yn ceisio ymbellhau rhag Keir Starmer a'i lywodraeth. Fe ddaw hwn ar ôl i bôl piniwn newydd roi'r Blaid Lafur yn drydedd ar gyfer etholiadau'r Senedd a Phlaid Cymru yn gyntaf - mae Richard yn dadansoddi'r cyfan.
Yn y stiwdio gyda Vaughan, mae gohebydd gwleidyddol y BBC, Elliw Gwawr a Desmond Clifford - cyn Prif Ysgrifennydd Preifat i Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones a Mark Drakeford yn trafod goblygiadau'r pôl piniwn gyda blwyddyn i fynd cyn etholiad y Senedd.
Published on Wednesday, 7th May 2025.
Available Podcasts from Gwleidydda
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Gwleidydda webpage.