‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.
Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda Grace Jones, sydd wedi ei geni a'i mhagu yn Seland Newydd ac wedi dysgu Cymraeg, a hynny ar ôl cyfarfod ei gŵr Llion pan aeth ef allan i weithio fel cneifiwr i Seland Newydd. Fe dreuliodd Grace gyfnod yng Nghymru pan ddaeth hi a Llion i fyw yn Nebo, ger Llanrwst am gyfnod. Tydy Grace ddim wedi cael unrhyw wersi Cymraeg ffurfiol - mae hi wedi dysgu'r iaith drwy fyw a gweithio ymhlith Cymry pan oedd yng Nghymru ac wrth sgwrsio a gwrando ar Llion yn siarad. Bellach mae Grace a Llion wedi dychwelyd yn ôl i fyw i Seland Newydd, mae nhw newydd brynu fferm ac yn rieni balch i fab bach sydd yn ddwy oed.
Published on Wednesday, 14th May 2025.
Available Podcasts from Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Subscribe to Y Podlediad Dysgu Cymraeg
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Podlediad Dysgu Cymraeg webpage.