Lleisiau Cymru - Mandy Watkins

Mandy Watkins

Download Mandy Watkins

Y cynllunydd tai, Mandy Watkins sy’n ymuno gyda Meinir Gwilym i drafod gwaith adnewyddu ar ei thŷ fferm a’r ardd lle mae hi wedi bod yn byw dros y ddeng mlynedd diwethaf ar Ynys Môn. Mae hi’n galw ei hun yn ‘reluctant gardener’ ar ôl sylweddoli’r holl waith oedden nhw’n ymgymryd unwaith i’r teulu gychwyn adnewyddu Rallt.
Yn y bennod yma, mae Mandy yn hel atgofion o’i chymdogion oedd yn garddio yn ystod ei phlentyndod a sut ddaeth yn fwy o ddiddordeb iddi yn ystod y cyfnod clo.
Fel cynllunydd, mae Mandy yn casglu ysbrydoliaeth o bob man wrth iddi freuddwydio am yr ardd berffaith - er, mae garddio yn dibynnu ar lawer mwy o ffactorau na chynllunio tai!

Lowri Ifor sy’n sôn am her go fawr a wynebodd eleni wrth iddi dyfu blodau ar gyfer ei phriodas ym mis Mai. Fel rhywun oedd wedi gwneud ychydig o arddio cyn hynny, mae hi’n sôn am ei phrofiad o dyfu mewn potiau rhan fwyaf, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo. A fuodd yr holl waith tyfu eleni yn llwyddiannus? A be sydd ar y gweill nesaf yn yr ardd?

Rachel Griffiths a gychwynnodd garddio yn ystod ei chyfnod mamolaeth sy’n siarad am ei phrofiadau o arddio gyda’i phlant bellach. Fe gychwynnodd y diddordeb fel rhywbeth i’w wneud oedd yn wahanol i ddelio gyda’r holl boteli a napis!

Published on Tuesday, 15th July 2025.

Available Podcasts from Lleisiau Cymru

Subscribe to Lleisiau Cymru

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Lleisiau Cymru webpage.