Mae Gwenllian Ellis, neu Gwen, wastad wedi bod eisiau gwybod mwy am Gwen Ellis arall. Yn 1594 cafodd Gwen ferch Ellis o Landyrnog ei chrogi ar grocbren sgwâr Dinbych ar gyhuddiad o fod yn wrach. Hi oedd y person cyntaf i gael ei chrogi am witshgrafft yng Nghymru.
Yn y podlediad, Gwen y Wrach a Fi, mae Gwenllian Ellis yn mynd ar daith i ddarganfod pwy oedd Gwen y ferch, y chwaer, y ffrind, y wraig, y swynwraig a’r iachawraig, a pham rhoi’r gosb eithaf iddi.
O ymweld â sgwâr Dinbych lle dreuliodd hi ei heiliadau olaf, i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lle mae cofnodion llys Gwen yn cael eu cadw, i Eglwys Llansanffraid ger Glan Conwy lle casglodd tystion i roi tystiolaeth yn ei herbyn, mae Gwenllian yn dod i ddeall mwy am stori Gwen a beth mae ei hanes yn ei ddweud wrthi am fod yn ferch heddiw.
Ar ei thaith mae’n cael cwmni Holly Gierke, Ruth Williams, Dr Gareth Evans Jones, Dr David Moore a Siân Melangell Dafydd.
Cyflwynydd: Gwenllian Ellis
Cynhyrchydd: Anna George
Sain: Richard Durrell
Published on Tuesday, 21st October 2025.
Available Podcasts from Lleisiau Cymru
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Lleisiau Cymru webpage.