Download Streeting i aros yn ffyddlon?
Ar ôl i rai o gefnogwyr Syr Keir Starmer ddweud wrth y BBC bod Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Wes Streeting am herio'r prif weinidog mae Vaughan a Richard yn ceisio dirnad beth yn union sy'n mynd ymlaen yn rhengoedd y blaid Lafur. Mae cyn olygydd gwleidyddol BBC Cymru Betsan Powys yn ymuno â'r ddau i ddadansoddi’r cyfan.
Mae'r cyn newyddiadurwr, ac ymgeisydd y blaid Werdd yn isetholiad Caerffili, Gareth Hughes yn trafod dylanwad arweinydd newydd y blaid Zack Polanski ac yn trafod gobeithio'n y blaid ar gyfer etholiad y Senedd blwyddyn nesaf.
Cofiwch fod modd i chi gysylltu â gofyn cwestiwn i Vaughan a Richard trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Published on Wednesday, 12th November 2025.
Available Podcasts from Gwleidydda
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Gwleidydda webpage.