Pigion: Highlights for Welsh Learners - Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 26ain 2023

Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 26ain 2023

Download Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 26ain 2023

Pigion Dysgwyr – Y Wladfa


Mae Llinos Howells o Ferthyr Tudful yn gweithio ar hyn o bryd yn y Wladfa, sef y rhan o‘r Ariannin ble mae siaradwyr Cymraeg yn byw. Yn ei gwaith bob dydd mae hi‘n dysgu Cymraeg i blant yr ysgolion lleol. Wythnos diwetha cafodd Aled Hughes gyfle i sgwrsio gyda hi i weld sut mae pethau‘n mynd hyd yn hyn...

Yr Ariannin Argentina

Union fis A month exactly

Rhagbrofion Preliminary competition

Llefaru Reciting

Braint o feirniadu The honour of adjudicating

Deng mlynedd ar hugain 30 years

Cyngerdd mawreddog A grand concert

Croesawgar Welcoming

Twymgalon Warm-hearted



Pigion Dysgwyr – Ann Evans


Llinos Howells oedd honna’n brysur iawn yn y Wladfa, ond i weld yn mwynhau bob eiliad.
Merch arall o Ferthyr sydd yn y clip nesa - Ann Evans, dorrodd record Cymru i ferched dros 65 oed yn Hanner Marathon Casnewydd fis Mawrth diwetha, ond sydd erbyn hyn wedi cyflawni camp arall. Bythefnos yn ôl roedd hi yn Kenya yn cymryd rhan mewn ras barodd bump o ddiwrnodau drwy ardaloedd cadwraeth y wlad. Roedd rhaid rhedeg 30 milltir y dydd mewn tywydd poeth iawn. Dyma hi‘n sgwrsio gyda Alun Thomas ar Bore Sul ac yn sôn am un digwyddiad arbennig ar y daith……

Tu fas i Tu allan i

Cyflawni camp To fulfil an achievement

Ardaloedd cadwraeth Conservation areas

Heol (hewl) Ffordd

Eiddo Possessions

Perchen Ownership

Dwyn To steal

Gofidus Worried

Rhydd Loose

Dros y dibyn Over the precipice



Pigion Dysgwyr – Karen Wynne


Mae merched Merthyr yn hoff iawn o antur on’d dyn nhw?
Ac roedd hi’n dipyn o antur i’r actores Karen Wynne yn ddiweddar wrth iddi hi gael ei derbyn i’r Cylch Hud. Dyma Karen ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha yn sôn wrth Shan am y broses o gael eich derbyn i’r cylch arbennig hwn…….


Cylch Hud Magic Circle

Mynd amdani Going for it

Syth bin bot Straight away

Digwydd bod Happened to be

Hanu Deriving from

Sêl bendith Seal of approval

Gweinidog Minister

Hud a lledrith Magic

Honni To claim

Arallfydol Otherworldly

Pigion Dysgwyr – Hafodwennog


Basai’r gair ‘hudolus’, falle, yn un gair i ddisgrifio taith Aelwyd Urdd Hafodwennog i Ffrainc. Mae’r aelwyd yn y wlad fel rhan o ymgyrch Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd. Cafodd Ifan Evans gwmni Gwenan Evans a Dai Baker o’r Aelwyd ar ei raglen yr wythnos diwetha i sôn mwy am daith...

Hudolus Magical

Ymgyrch Campaign

Swmpus Substantial

Arweinyddion cyfrifol Responsible leaders

Gweithdai Workshops

Cytgan Refrain

Pigion Dysgwyr – Gwion Clarke


A dw i’n siŵr bod aelodau’r Aelwyd wedi ysbrydoli cefnogwyr Cymru yn ystod y gêm bwysig honno yn erbyn Awstralia yn Lyon.
Nos Fawrth diwetha cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Gwion Clarke o
Gaernarfon. Mae Gwion yn sgriptio darnau comedi ac yn gomedïwr ei hun, a dyma fe’n sôn wrth Caryl am sut dechreuodd e yn y maes…….

Ysbrydoli To inspire

Testunau List of competitions

Creadigol Creative

Edmygu brwdfrydedd Admire the enthusiasm

Buddugol Successful

Doniol Funny

Deunydd Material

Llifo To flow

Difrifol iawn Very serious

Tawelwch Silence

Pigion Dysgwyr – John Shaw


A phob lwc i Gwion gyda’r gigs on’d ife?
Ar Dros Frecwast fore Mercher clywon ni lais John Shaw. Mae John yn byw yn Utah ond roedd ei deulu’n dod Gymru yn wreiddiol. Alun Thomas aeth draw i Ysgol
Llangynwyd ger Maesteg i weld John ar ei ymweliad cynta â gwlad ei gyn-deidiau


Cyndeidiau Forefathers

Gwyddonydd coedwig Forestry scientist

Gweddill The rest of

Annerch To address

Troedio llwybrau Treading the paths

Y bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century

Cysylltiad Connection

Degawdau Decades

Bedyddwyr Baptist

Emyn Hymn

Published on Wednesday, 27th September 2023.

Available Podcasts from Pigion: Highlights for Welsh Learners

Subscribe to Pigion: Highlights for Welsh Learners

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Pigion: Highlights for Welsh Learners webpage.