Y Coridor Ansicrwydd - Cymru yn crafu buddugoliaeth yn erbyn Kazakhstan

Cymru yn crafu buddugoliaeth yn erbyn Kazakhstan

Download Cymru yn crafu buddugoliaeth yn erbyn Kazakhstan

Roedd hi'n bell o fod yn gyfforddus, ond llwyddodd Cymru i adael Kazakhstan gyda thri phwynt hollbwysig yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd - tri phwynt sydd yn mynd â nhw i frig y grŵp. Rhoddodd gôl Kieffer Moore y sylfaen berffaith i Gymru yn yr hanner cyntaf, ond siomedig oedd yr ail hanner. Tarodd y tîm cartref y trawst ddwywaith - gydag un o'r ergydion hynny yn dod gyda chic ola'r gêm. Oes 'na le i boeni am y perfformiad, ta'r canlyniad ydi'r unig beth sy'n cyfri? Roedd 'na dipyn o anghytuno ynglŷn â hynny rhwng y criw!

Ond un peth sy'n sicr, roedd pawb wedi rhyfeddu gan berfformiad di-fai Dylan Lawlor yng nghanol yr amddiffyn wrth iddo ennill ei gap cyntaf. Seren newydd y dyfodol

Published on Friday, 5th September 2025.

Available Podcasts from Y Coridor Ansicrwydd

Subscribe to Y Coridor Ansicrwydd

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Coridor Ansicrwydd webpage.