Download Mae Wrecsam wedi clicio!
Ar ôl colli'n flêr i Abertawe cyn y Nadolig, prin fyddai rheolwr Wrecsam Phil Parkinson wedi gofyn am ymateb gwell gan eu chwaraewyr. Pedair buddugoliaeth yn olynol - gan godi'r Cochion o fewn chwe phwynt i'r ail safle yn y Bencampwriaeth. Ydi cyfnod perffaith yma yn cynnig gobaith am ddyrchafiad awtomatig?
Digon derbyniol oedd canlyniadau a pherfformiadau Abertawe hefyd, gan berswadio Owain mai mynd o nerth i nerth fydd yr Elyrch o dan Vitor Matos o hyn tan ddiwedd y tymor. Parhau ar y brig mae Caerdydd yn Adran Un, ac mae Casnewydd yn symud i'r cyfeiriad cywir drwy godi oddi ar waelod yr Ail Adran.
Ond pwy sydd ar frig y tabl proffwydo? Does gan neb fawr o syniad i ddeud y gwir wrth i Dylan golli trac a cholli'i ben.
Published on Thursday, 8th January 2026.
Available Podcasts from Y Coridor Ansicrwydd
Subscribe to Y Coridor Ansicrwydd
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Coridor Ansicrwydd webpage.