Y Coridor Ansicrwydd - Syrcas Snoop yn cynhyrfu Abertawe

Syrcas Snoop yn cynhyrfu Abertawe

Download Syrcas Snoop yn cynhyrfu Abertawe

Welsoch chi erioed olygfa mwy swrreal na Snoop Dogg - un o rapwyr enwoca'r byd - yn cyfarch cefnogwyr Abertawe tra bod rai o'i ganeuon yn bloeddio o uchelseinydd cartref yr Elyrch? Go brin. Roedd hi'n anodd i Dyl, Ows a Mal wybod lle i gychwyn efo'r holl firi - ond mi fydd y digwyddiad yn sicr yn aros yn hir yn y cof. Ac wrth gwrs, mi oedd rhaid i Mal roi gynnig ar rap bach ei hun...

Mi oedd 'na ychydig o amser i drafod pĂȘl-droed hefyd, wrth i Wrecsam sicrhau dwy fuddugoliaeth llawn cymeriad (eto), tra bod 'na sioc i Gaerdydd wrth golli'n drwm i Plymouth. A beth am Eric Ramsay druan... 44 diwrnod yn unig gafodd y Cymro yn West Brom cyn cael ei ddiswyddo.

Published on Thursday, 26th February 2026.

Available Podcasts from Y Coridor Ansicrwydd

Subscribe to Y Coridor Ansicrwydd

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Coridor Ansicrwydd webpage.