Download Ydi pêl-droed yn ddiflas?
Oes 'na ormod o basio a dim digon o gyffro yn y gêm fodern? Ydi ciciau cornel wedi mynd dros ben llestri go iawn? Ydi Malcolm wedi clywed gan Snoop Dogg ers ei rap bythgofiadwy? Oes, mae 'na gwestiynau dyrys i'w hateb ar y bennod yma...
Mae'r criw yn cychwyn gyda'r pwynt gwerthfawr lwyddodd Cymru i gipio wrth agor y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2027 gyda gêm gyfartal yn y Weriniaeth Siec. Canlyniad da, ond perfformiad siomedig.
Roedd 'na ragor o ddathlu i'r Seintiau Newydd nos Fawrth wrth iddyn nhw gael eu coroni'n bencampwyr Cymru Premier am y pumed tymor yn olynol. Mae Casnewydd wedi codi allan o'r ddau safle isaf am y tro cyntaf mewn pum mis ar ôl curo Tranmere Rovers, ac am gol sgoriodd Dylan Lawlor i Gaerdydd (doedd honno ddim yn ddiflas)!
Ac mae hi'n benwythnos mawr yn y gwpan wrth i Wrecsam groesawu mawrion Chelsea, tra bod Cwpan Cymru yn cyrraedd y pedwar olaf. Blwyddyn y Cofis o'r diwedd?
Published on Thursday, 5th March 2026.
Available Podcasts from Y Coridor Ansicrwydd
Subscribe to Y Coridor Ansicrwydd
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Coridor Ansicrwydd webpage.