Download Abertawe llawn hyder wrth anelu am Wrecsam
Ydi canlyniadau da Abertawe yn golygu bod nhw wedi ymuno yn y ras am gemau ail-gyfle y Bencampwriaeth? Pum pwynt ydi'r bwlch bellach rhwng y ddau glwb, ac fe all hynny leihau i ddau gyda buddugoliaeth i'r Elyrch ar y Cae Ras nos Wener. Mae hi wedi bod yn dipyn o wythnos i Wrecsam yn dilyn amser ychwanegol yn erbyn Chelsea ac yna colled gartref yn erbyn Hull City. A chyda rhagor o anafiadau - gan gynnwys i Kieffer Moore fydd yn bryder i Gymru - ydi'r Dreigiau yn dechrau colli stêm?
Ac wrth i Ryan a Rob baratoi i sylwebu ar y gêm am y tro cyntaf, pa air o gyngor sydd gan y criw i rannu gyda'r ddau actor enwog?
Published on Thursday, 12th March 2026.
Available Podcasts from Y Coridor Ansicrwydd
Subscribe to Y Coridor Ansicrwydd
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Coridor Ansicrwydd webpage.