Y Coridor Ansicrwydd - Mae hi'n Happy Hour yma!

Mae hi'n Happy Hour yma!

Download Mae hi'n Happy Hour yma!

Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n cael modd i fyw wrth i'r tymor ddod i ben llawn tensiwn a drama i Wrecsam a Chasnewydd.

Fydd y Dreigiau yn cyrraedd gemau ail-gyfle y Bencampwriaeth? Yn rhyfeddol, mae pob canlyniad posib yn golygu fydda nhw'n llwyddo, ond hefyd yn gallu golygu bod nhw'n methu. Ond un peth sy'n sicr, fydd 'na "cool head" gan Phil Parkinson.

Brywdro am eu bywydau i aros yn y Gynghrair Bel-droed mae Casnewydd. Oes ganddyn nhw un ymdrech fawr arall i sicrhau'r fuddugoliaeth fydd yn sicr o'u hachub rhag disgyn?

Ac un gair o rybudd. Mae gan Dylan "ffaith" am Lerpwl sydd ymysg y mwyaf diflas fuodd ar unrhyw bodlediadau erioed.

Published on Wednesday, 29th April 2026.

Available Podcasts from Y Coridor Ansicrwydd

Subscribe to Y Coridor Ansicrwydd

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Coridor Ansicrwydd webpage.