Download Siom Wrecsam, rhyddhad Casnewydd
Fydd 'na ddim pedwerydd dyrchafiad yn olynol i Wrecsam ond roedd hi'n ddychrynllyd o agos. Dau bwynt oedd y gwahaniaeth rhyngddyn nhw a'r safleoedd ail-gylfe yn y pendraw ar ôl gorffen y tymor gyda gêm gyfartal yn erbyn Middlesbrough ar y Cae Ras. Ond mi gafodd y Dreigiau ddau gyfle mawr i ennill y gêm a chipio'r chweched safle oddi wrth Hull City. Be fydd y rheolwr Phil Parkinson wedi ei ddysgu o'r tymor? Sut all o wella'r garfan? Oes angen iddo fod mwy hyblyg yn ei arddull chwarae?
Emosiynau gwbl wahanol oedd i Gasnewydd wrth guro Barrow i osgoi disgyn o'r Ail Adran. Cymysgedd o orfoledd a rhyddhad oedd hi, wrth i'r clwb ddod yn anghyfforddus o agos unwaith eto i golli eu statws yn y gynghrair bêl-droed. Y cwestiwn mawr ydi, beth sydd angen newid er mwyn sicrhau bod hyn ddim yn digwydd eto?
Ac wrth gwrs, gan fod y tymor wedi dod i ben, mae'n rhaid coroni pencampwr proffwydo Y Coridor Ansicrwydd 2025-26...
Published on Thursday, 7th May 2026.
Available Podcasts from Y Coridor Ansicrwydd
Subscribe to Y Coridor Ansicrwydd
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Coridor Ansicrwydd webpage.