Y Coridor Ansicrwydd - Mae Cwpan y Byd yn plesio!

Mae Cwpan y Byd yn plesio!

Download Mae Cwpan y Byd yn plesio!

Er absenoldeb Cymru yng Ngogledd America, mae 'na gynnwrf mawr ymysg y criw wedi'r wythnos gyntaf o gemau. O hat-tric Messi i sgiliau Olise, mae digwyddiadau ar y cae wedi gorchfygu'r pesimistiaeth a'r amheuon yn arwain at y gystadleuaeth. Dim ond dwy gêm tydi Malcolm heb wylio... ydi'r diffyg cwsg yn dechrau dangos?

Ond cyn hynny, rhown deyrnged i gyn chwarae Cymru a chyn reolwr Abertawe Kenny Jackett, fu farw yn 64 oed. Mae Mal yn cofio ei gymeriad addfwyn fel cyd-chwaraewr, tra bod Ows yn cydnabod ei ddyled enfawr i'r dyn ddangosodd ffydd ynddo drwy agor y drws i mewn i'r gêm broffesiynol - drws o bosib fyddai wedi aros ar gae fel arall.

Published on Thursday, 18th June 2026.

Available Podcasts from Y Coridor Ansicrwydd

Subscribe to Y Coridor Ansicrwydd

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Coridor Ansicrwydd webpage.