Y Coridor Ansicrwydd - Abertawe ar y brig, Caerdydd a Wrecsam dal heb ennill

Abertawe ar y brig, Caerdydd a Wrecsam dal heb ennill

Download Abertawe ar y brig, Caerdydd a Wrecsam dal heb ennill

Tair buddugoliaeth, un gêm gyfartal ac mae Owain Tudur Jones yn barod yn breuddwydio am flasu'r bwyd ysblennydd sydd ar gael i'r wasg gan glybiau Uwch Gynghrair Lloegr. Do, mae Abertawe wedi cael cychwyn calonogol iawn i'r tymor ac yn eistedd ar frig y Bencampwriaeth. Ac i ychwanegu at y gobaith am dymor llwyddiannus, mae'r clwb wedi bod yn brysur yn ystod y ffenestr trosglwyddo, ac wedi llwyddo i ddal eu gafael ar Zan Vipotnik. Ond siawns bod hi bach yn gynnar i ddechrau meddwl am ddyrchafiad.

Does fawr i'w ddathlu ymysg cefnogwyr Wrecsam wrth iddyn nhw barhau aros i weld y Cochion yn ennill. Mae'r clwb wedi bod yn gwario eto ar chwaraewyr newydd, ond tydi Dylan Griffiths na Malcolm Allen yn siŵr os ydi'r wynebau newydd wedi gwella safon y garfan. Tydi Caerdydd heb wario, a rhai yn cwestiynu ymroddiad y perchennog Vincent Tan.

Ac ydi Caernarfon wedi darganfod seren newydd..?

Published on Wednesday, 2nd September 2026.

Available Podcasts from Y Coridor Ansicrwydd

Subscribe to Y Coridor Ansicrwydd

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Coridor Ansicrwydd webpage.