Download Ffeithiau, ffeithiau a mwy o ffeithiau
Ar ôl perfformiad "anobeithiol" yn erbyn Sheffield United, tarodd Wrecsam yn ôl mewn steil gyda buddugoliaeth wych yn erbyn Middlesbrough - y tîm ar frig y Bencampwriaeth. Digon i dynnu'r pwysau oddi ar ysgwyddau'r rheolwr Phil Parkinson fasa nifer yn ei feddwl... ond ddim felly Malcolm Allen! Mae o'n dal at ei farn bod rhaid curo Wolves dydd Sadwrn er mwyn tawelu'r sibrydion am ddyfodol y rheolwr.
Daeth y fuddugoliaeth yn dilyn beirniadaeth gyhoeddus o'r garfan gan Parkinson - rhywbeth anghyffredin iawn yn ei gyfnod wrth y llyw. Ond mae hi'n gêm beryg, meddai Owain Tudur Jones, yn enwedig wrth gyfeirio at chwaraewyr fuodd yn llwyddiannus yn y Gynghrair Genedlaethol.
Does dim byd ond clod i Jack Moylan wrth iddo serennu unwaith eto i Gaerdydd, tra Casnewydd yn parhau i gryfhau o dan Hayden Mullins.
Ac mae'r criw wedi bod yn crafu pen yn hir er mwyn meddwl am ffaith gudd am eu gyrfa pêl-droed.
Published on Thursday, 5th November 2026.
Available Podcasts from Y Coridor Ansicrwydd
Subscribe to Y Coridor Ansicrwydd
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Coridor Ansicrwydd webpage.