Y newyddion ffermio diweddaraf ar BBC Radio Cymru. The latest farming news.
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A collection of Welsh language podcasts featuring interesting voices and opinions from across Wales.
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.
Casgliad o bodlediadau ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd. Sgyrsiau diddorol o bob math fydd yn gymorth ac yn gwmni i chi ar eich taith fel siaradwr Cymraeg newydd. A collection of podcasts for Welsh learners.
Cyfres o straeon i blant bychain. A series of stories for young children.
Uchafbwyntiau rhaglen Tudur Owen. Hiwmor ffraeth, sgyrsiau difyr a doniol hefo Tudur Owen a chriw'r rhaglen.
Mae hanes Cymru yn llawn pobl ryfeddol a chymeriadau mawr. Dewch ar daith hwyliog i'w cyfarfod! Pwy oedd Owain Glyndŵr a Merched Beca? Pryd cafodd glo ei ddarganfod? Pam ein bod yn siarad Cymraeg o gwbl? Llinos Mai sy’n ein tywys drwy’r cyfan. Dewch i gyfarfod y dihirod, arwyr a’r bobl gyffredin wnaeth ffurfio cenedl. The history of Wales is full of amazing stories and big characters! Join Llinos Mai on a fun filled journey to discover the history that formed a nation. Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
Trafodaethau bywiog am yr hyn mae’n ei olygu i fod yn aelod o gymuned LHDTC+ yng Nghymru, yng nghwmni Iestyn Wyn a Meilir Rhys Williams. Iestyn Wyn & Meilir Rhys Williams celebrate the LGBTQ+ community in Wales.
Mae podlediad Mel, Mal a Jal wedi cyrraedd BBC Sounds ac mae'r ffrindiau yn dal i siarad am bethau hapus a heriol bywyd. Bydd llwyth o chwerthin ar hyd y ffordd a digonedd o straeon a safbwyntiau difyr am fywydau y dair. Mel, Mal and Jal bring their fun and heartfelt conversations to BBC Sounds.
Meibion Glyndŵr: Oes rhywun yn rhywle'n gwybod? Meibion Glyndŵr: Ioan Wyn Evans investigates a turbulent period in recent Welsh history.
Yn 2020 fe gychwynnodd Tara Bethan ar daith i ddysgu am sut mae’r creadigrwydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau mewn cyfnodau heriol a hapus. Yn ei chartref newydd ar BBC Sounds mae’r sgyrsiau yn parhau, a chawn gyfarfod mwy o wynebau cyfarwydd Cymru i glywed am y pethau sy’n eu cynnal nhw. Ar hyd y ffordd cawn glywed am brofiadau yn ymwneud ag iechyd meddwl a lles yn cael eu trafod mewn ffordd agored a gonest. Mae’r podlediad yma’n cynnwys iaith gref.
Aled Hughes yn mynd at wreiddyn moel straeon difyr rhai o Gymry’r byd. Aled Hughes gets to the root of the stories which have shaped people's lives.
Trin a thrafod newyddion sy’n bwysig i bobl Cymru, a chyfle i gael atebion i’r cwestiynau mawr. A space to discuss major news stories and issues, and answer the important questions.
Dwy o ferched ifanc y ddinas yn trio newid eu ffyrdd er lles y blaned (gyda help llaw gwesteion arbennig!); Ydych chi bach yn ddi-glem? Ry' ni fyd OND peidiwch a becso, fe wnawn ni'r gwaith caled i gael adrodd nôl ato chi
Lisa Angharad a'i gwesteion yn siarad am ryw a rhywioldeb mewn ffordd agored a gonest. Popeth yn Gymraeg! Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref.
Digon yw digon, wrth i Non Parry ddweud ei bod hi’n amser am sgwrs onest am iechyd meddwl. / Enough is enough, as Non Parry says it’s time to be upfront about mental health.
Trafodaeth wythnosol Radio Cymru ar natur a bywyd gwyllt. Radio Cymru's weekly nature and wildlife discussion.
Golwg ar newyddion pêl-droed. Football news and discussion
Elis James sy'n archwilio’r ffordd mae iaith yn allwedd i ddiwylliant, i ffordd arall o weld y byd, ac i bersonoliaethau gwahanol…
Bethan Rhiannon, Mared Parry, Siôn Owens a Jalisa Andrews sy’n rhannu straeon am eu 'tro cyntaf’. Sgyrsiau gonest gan griw BBC Sesh am brofiadau mawr bywyd. Y da, y drwg a'r doniol... Mae’r podlediad yma yn cynnwys iaith gref, cynnwys aeddfed a themâu sydd ddim yn addas i blant!
Yn anffodus ‘dyw bod yn rhieni ddim yn dod â chyfarwyddiadau – ond ry’n ni gyd yn gwneud ein gorau glas. Beth Jones, Siôn Tomos Owen a’u gwesteion sy’n trin a thrafod yr holl brofiadau boncyrs o fod yn rhieni a magu plant.
Tudur Owen a Dyl Mei sy’n ein tywys drwy hanes Cymru, un cwestiwn ar y tro...
Ifor ap Glyn, y bardd cenedlaethol, sydd ar daith i Lithwania, China a Camerwn. Byddwn yn dod i adnabod y gwledydd ac yn gwrando ar Ifor yn rhannu ei ymateb i'r wlad, ei phobl a'u diwylliant fel teithiwr ac fel bardd.
Eddie Ladd yw curadur archif ddigidol Radio Cymru. Eddie Ladd curates Radio Cymru's digital archive.
Cerys Matthews yn dewis ei hoff sesiynau o 40 mlynedd o Sesiynau BBC Radio Cymru.
Comedi am gell o derf-ddysgwyr sydd ar dân dros y 'Cymraeg Newydd' yw Dulliau Chwyldro. "Ni rydy y dyfodol, butt; nos caseg mwyaf drwg chi. Miliwn dros Gymru!"
Mae Jan wedi colli ei swydd gyda’r heddlu, wedi gwahanu oddi ei gŵr ac yn gobeithio cychwyn bywyd newydd. Doedd hi ddim yn disgwyl gorfod helpu i ddatrys achosion ‘rhyfedd iawn’.
Straeon i’r plant lleiaf gan rai o awduron blaenllaw Cymru ar gael i’w lawrlwytho i wrando arnyn nhw unrhyw bryd. Stories aimed at children under 9. From BBC Radio Cymru